Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15
Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(60 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
(5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM7527 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7522, NNDM7525, NNDM7526 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
(5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM7524 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7523 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.09 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Cyhoeddi polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd - Gohiriwyd
(0 munud)
4 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE
(45 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 5-7 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
(30 munud)
5 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020
NDM7512 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
6 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020
NDM7516 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020
NDM7526 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
(15 munud)
NDM7522 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020
(15 munud)
NDM7525 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
(15 munud)
NDM7509 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
11 Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
(15 munud)
NDM7508 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
12 Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
(15 munud)
NDM7507 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 13-14 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.
(15 munud)
13 Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
NDM7511 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
14 Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
NDM7510 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
15 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020
(15 munud)
NDM7506 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
16 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach - Gohiriwyd
(0 munud)
NDM7515 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ebrill 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Masnach (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
17 Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd
(60 munud)
NNDM7523 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli COVID-19 yng Nghymru - 11 Rhagfyr 2020
Dogfennau Ategol
Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Gwelliant 3 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu’r canlynol fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.
Gwelliant 4 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Ychwanegu’r canlynol fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwyr
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 8 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Gwelliant 9 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 18-19 eu grwpio gyda'i gilydd ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân.
(60 munud)
18 Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
NDM7513 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Gosodwyd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 6 Gorffennaf 2020.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gerbron y Senedd ar 4 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig.
19 Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
NDM7514 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Dogfennau Ategol
20 Cyfnod pleidleisio
Crynodeb o Bleidleisiau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2020